Addysg: Ysgol Arberth

Beth wnaethon ni :

Roed y prosiect yn cynnwys adeiladu ystafell ddosbarth newydd ynghyd a'r torri trwodd a'r gwaith ail fodelu i ystafelleodd dosbarth eraill o fewn yr adeilad. Llwyddodd y prosiect I ennill Tystysgrif Adeiladwr Ystyriol y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth.

Cleient:

Cyngor Sir Penfro (Fframwaith Rhanbarthol De Orllewin Cymru)

Gwaith a gwblhawyd :

  • Adeiladu sylfaen rafft
  • Adeiladu ystafell ddosbarth newydd
  • Torri trwodd i'r strwythur presennol
  • Ailfodelu ystafelloedd dosbarth presennol, gan gynnwys dodrefnu mewnol llawn, addurno a gwaith M&E cysylltiedig
  • Draeniad, gwaith daear a gorffeniad tarmacadam i ardaloedd allanol

Materion Allweddol y bu'n rhaid i ni eu hystyried :

  • Trafodwyd trefniadau cyfathrebu ac iechyd a diogelwch cadarn a chytunwyd arnynt rhwng y Rheolwr Safle a’r Tîm Arwain Ysgol yn gynnar iawn. Roedd y trefniadau’n cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd drwy gydol cyfnod y contract a’u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau bod y gweithgareddau adeiladu yn cael yr effaith leiaf bosibl ar weithgareddau dydd i ddydd yr Ysgol

Safonau adeiladu y gweithion ni tuag atynt:

  • LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol)

Buddion cymunedol y prosiect:

  • Gwell amgylchedd dysgu i'r plant
  • Gwell amgylchedd gwaith ar gyfer yr athrawon a staff eraill yr ysgol

Hyrwyddo iechyd a diogelwch:

  • Rhoddwyd sgyrsiau Iechyd a Diogelwch i'r disgyblion a'r staff ar sut i gadw'n ddiogel tra yn yr ysgol. Cefnogwyd aelodau’r tîm gan Ivor Goodsite o’r Constructor Ystyriol i gynnal y sgyrsiau hyn yng Nghynulliad yr Ysgol
  • ynhaliwyd cystadleuaeth lliwio ar gyfer y blynyddoedd cynnar tra bu'r disgyblion hŷn yn cystadlu mewn cystadleuaeth dylunio poster diogelwch. Dewiswyd enillydd o bob blwyddyn a chyflwynwyd tocynnau llyfr a gafwyd gan fusnes lleol

Gwerth y Contract:
£250,000
Hyd:
26 wythnos
left arrow
right arrow