Ymunwch a’n Tim

Rhestrir ein swyddi gwag presennol isod. Rydym yn ychwanegu cyfleoedd newydd wrth iddynt ddod ar gael, felly os nad oes un yn addas i chi heddiw, ymwelwch eto yn fuan neu ffoniwch ni ar 01269 861160.

Swyddi gweigion presennol

Teitl swydd Rôl
Gweithiwr Safle Rydym ar hyn o bryd yn edrych am geisiadau gan unigolion brwdfrydig i ymuno â'n tîm. Mae'r cwmni wedi newid yn ddiweddar i Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr er mwyn hwyluso ein cynllun etifeddu, parhad busnes a thyfiant. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus helpu a chefnogi ein tîm rheoli a gwiethredol drwy ymgymrhyd mewn amrhywiaeth o dasgau gwahanol sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau ein prosiectau. Tra bod profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd adeiladu yn ddymunol, caiff hyfforddiant perthnasol ei gefnogi gan y cwmni. Mae trwydded yrri llawn a glan yn ddymunol. Please follow the link to view the job profile. Dilynwch y ddolen hon i weld proffil y swydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon, anfonwch gopi o'ch CV at Mandy Jones, 43 Myrtle Hill, Ponthenri, Llanelli, Caerfyrddin. SA15 5PD neu e-bostiwch [email protected]. Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â Gary ar 07495 472359 neu e-bostio– [email protected].

Proffil Swydd

Gweithio i Lloyd & Gravell

Rydym am i bobl fwynhau gweithio i’n cwmni a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, bod yn aelod gwerthfawr o dîm a gwybod i sicrwydd bod y cwmni bob amser yn meddwl am eu lles. I gefnogi hyn, mae ein telerau ac amodau cyflogaeth yn gystadleuol.

Rhan o athroniaeth ein cwmni yw Hyfforddi i Gadw Mae hyn yn cynnwys:

  • Pecynnau recriwtio a chadw cystadleuol
  • Rhaglen hyfforddi ar draws y cwmni
  • Cyfleoedd dilyniant gyrfa

Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau i hyfforddeion, cyfleoedd i brentisiaid a phrofiad gwaith

 

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn bodloni gofynion ein swyddi gwag ni waeth beth fo’u hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd. a mynegiant rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal, gwerthfawrogi amrywiaeth a mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol ac yn ymdrechu i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

Dod yn brentis

Darganfod mwy am ein cynllun prentisiaeth
a swyddi gwag prentisiaid presennol
Prentisiaethau