Pwy ydyn ni

Rydym yn gwmni teuluol sydd â gwreiddiau Cymreig wrth galon popeth a wnawn. Mae’r cysylltiadau sydd gennym gyda’n cleientiaid a’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio yn golygu ein bod yn aml yn derbyn argymhellion neu atgyfeiriadau, sydd wedi bod yn hanfodol i’n twf a’n llwyddiant parhaus

Ar draws pob agwedd o’n busnes, rydyn ni’n canolbwyntio ar:

  • Gwaith o ansawdd uchel
  • Gofal cwsmer rhagorol
  • Diogelu’r dyfodol
  • Creu cymunedau cadarn

Gwerth tîm cadarn

Ein gweithlu yw ein hased mwyaf, ac rydym yn falch o helpu i ddatblygu a mentora crefftwyr a merched y dyfodol.

Pan sefydlwyd y busnes gennym ym 1991, roedd gennym dîm o bump, dau ohonynt yn brentisiaid. Ein nod o’r cychwyn oedd creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol er mwyn i ni allu trosglwyddo sgiliau adeiladu gwerthfawr a rhoi yn ôl i’n hardal leol.

Heddiw rydym yn cyflogi tîm o fwy na 60 o bobl, gan gynnwys rhai sydd wedi bod gyda ni ers y diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, gwyddom ein bod yn fwy na’r rhai sydd â Lloyd a Gravell ar eu slip cyflog. Mae ein cyflenwyr ac isgontractwyr, cleientiaid a chymunedau i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein llwyddiant bob dydd.

Rydym yn sicrhau ein bod yn bodloni’r safonau, y rheoliadau a’r arferion gorau diweddaraf trwy raglen barhaus o welliant, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Lle bynnag y gallwn, rydym yn rhannu’r cyfleoedd hyn gyda’n hisgontractwyr a chyflenwyr.

Yn anad dim, rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig—mae tua dwy ran o dair o’n tîm yn ddwyieithog—ac yn cyfrannu at ddyfodol Cymru. I gydnabod hyn, mae gennym wyliau cwmni blynyddol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Rydym yn falch iawn o fod ar Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru 2020 – 2024 ar gyfer rhanbarth y gorllewin (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro) ar gyfer contractau gwerth hyd at £9 miliwn.

O’r Llyfryn Enillwyr Rhagoriaeth Adeiladu Cymru, 2014 pan wnaethom ennill y categori BBaCh (51-250)

Ers ymuno â Fframwaith Sir Gaerfyrddin, mae’r busnes hwn wedi ymrwymo i egwyddorion arfer gorau, yn enwedig o ran ei arweinyddiaeth a datblygiad ei bobl i sicrhau ei fod yn darparu cynnyrch terfynol gwych.

Roedd yn amlwg i’r beirniaid fod ymrwymiad clir a pharhaus i hyfforddiant gan fod tîm Lloyd Gravell yn gweld hyn nid yn unig fel dyfodol y busnes, ond yn fuddsoddiad i’r rhanbarth.

Lloyd and gravell team photo

Ein Tîm

Beth am gyfarfod y bobol sy’n ein gwneud yr hyn rydyn ni
Join our Team

Ymunwch â’n Tîm

Gweler ein swyddi gwag cyfredol
L and G Apprenticeships

Prentisiaethau

Dewch I wybod mwy am ein cynllun prentisiaeth
Our Work

Yr hyn a wnawn ni

Rydym yn adeiladu, adnewyddu ac atgyweirio adeiladau
gyfer y sector cyhoeddus a phreifat.
Rhagor o wybodaeth
Gorslas

Sut rydyn ni’n gweithio

Beth sy'n ein gyrru i wneud
yn well bob dydd
Rhagor o wybodaeth