Sut rydyn ni’n gweithio: Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

Mae ein hymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i genedlaethau i ddod wrth wraidd popeth a wnawn.

Ar y safle trwy ein cadwyn gyflenwi ac ar ein safle ein hunain, ein nod yw:

  • Creu adeiladau mwy ynni-effeithlon
  • Lleihau’r galw am adnoddau naturiol
  • Lleihau’r angen am waith cynnal a chadw parhaus a thechnoleg ategol gymhleth
  • Dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu
  • Dod o hyd i gymaint o’n cadwyn gyflenwi mor lleol â phosibl er mwyn cadw allyriadau o drafnidiaeth i’r lleiaf posibl

Rydym yn gwella ein sgiliau a’n gwybodaeth yn y maes hwn yn gyson ac mae gennym brofiad diweddar o gyflawni prosiectau sy’n bodloni safonau BREEAM a Passivhaus.

Er mwyn monitro a mesur ein prosiectau, rydym yn cynnal asesiad effaith amgylcheddol mewnol bob blwyddyn.

Our Work

Yr hyn a wnawn ni

Rydym yn adeiladu, adnewyddu ac atgyweirio adeiladau
gyfer y sector cyhoeddus a phreifat.
Rhagor o wybodaeth
CITB Outstanding Employer SME

Pwy ydyn ni

Ein pobol, ein henw da, achrediadau a gwobrau
Rhagor o wybodaeth