Sut rydyn ni’n gweithio: Ein cadwyn gyflenwi

Mae ein cyflenwyr a’n contractwyr yn estyniad o’n tîm ac yn rhan annatod o bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.

Rydym wedi adeiladu rhwydwaith lleol cryf o fusnesau ac unigolion sydd:

• Yn gyfarwydd iawn i ni 

• Yn rhannu ein gwerthoedd a’n dyheadau

•Yn rhai y gallwn ddibynnu arnynt

O ganlyniad, rydym yn gwybod y gallwn:

 

• Ymateb yn gyflym pan fydd angen
• Gael cymorth arbenigol i ddatrys problemau
• Warantu bod ein cyflenwyr yn rhannu’r un ymrwymiad i ansawdd a gwerth ag sydd gennym ni ein hunain

Rydym yn cefnogi’r economi leol

Trwy ein gwaith gyda’n cyflenwyr a’n contractwyr, rydym yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol cynaliadwy. Pan fyddwn yn darparu hyfforddiant i’n tîm, pan fo’n berthnasol, rydym yn gwahodd ein cyflenwyr a’n contractwyr lleol i ymuno â ni. Mae hon yn ffordd ymarferol y gallwn gefnogi’r economi leol ac mae’n ein helpu i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arfer gorau ar draws ein cadwyn gyflenwi.

Rydym yn cyrraedd 100% o’n targedau taliadau teg ac, ar gyfartaledd, yn gwario 83% o gyllideb pob prosiect yng Nghymru.

Cliciwch yma os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n rhestr cadwyn gyflenwi gymeradwy i gael ffurflen gofrestru cyflenwr.

Mae LBS Builders wedi gweithio gyda Lloyd a Gravell ers dros 20 mlynedd. Maen nhw'n un o'r contractwyr mwyaf proffesiynol, dibynadwy a deinamig yn y rhanbarth. Maent yn cyflogi masnachwyr lleol, yn defnyddio cyflenwyr lleol i ddod o hyd i ddeunyddiau, ac yn buddsoddi'n helaeth i gefnogi achosion da lleol , gan ychwanegu gwerth at y gymuned gyfan. Mae ein hadran rheoli credyd yn meddwl eu bod yn wych oherwydd maen nhw bob amser yn talu ein hanfonebau'n llawn ar amser! Maen nhw'n gwmni gwych i wneud busnes ag ef.
Mark Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr
/
LBS Builders Merchants