Beth wnaethon ni :
Roed y prosiect yn cynnwys adeiladu ystafell ddosbarth newydd ynghyd a'r torri trwodd a'r gwaith ail fodelu i ystafelleodd dosbarth eraill o fewn yr adeilad. Llwyddodd y prosiect I ennill Tystysgrif Adeiladwr Ystyriol y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth.
Cleient:
Cyngor Sir Penfro (Fframwaith Rhanbarthol De Orllewin Cymru)
Gwaith a gwblhawyd :
- Adeiladu sylfaen rafft
- Adeiladu ystafell ddosbarth newydd
- Torri trwodd i'r strwythur presennol
- Ailfodelu ystafelloedd dosbarth presennol, gan gynnwys dodrefnu mewnol llawn, addurno a gwaith M&E cysylltiedig
- Draeniad, gwaith daear a gorffeniad tarmacadam i ardaloedd allanol
Materion Allweddol y bu'n rhaid i ni eu hystyried :
- Trafodwyd trefniadau cyfathrebu ac iechyd a diogelwch cadarn a chytunwyd arnynt rhwng y Rheolwr Safle a’r Tîm Arwain Ysgol yn gynnar iawn. Roedd y trefniadau’n cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd drwy gydol cyfnod y contract a’u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau bod y gweithgareddau adeiladu yn cael yr effaith leiaf bosibl ar weithgareddau dydd i ddydd yr Ysgol
Safonau adeiladu y gweithion ni tuag atynt:
- LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol)
Buddion cymunedol y prosiect:
- Gwell amgylchedd dysgu i'r plant
- Gwell amgylchedd gwaith ar gyfer yr athrawon a staff eraill yr ysgol
Hyrwyddo iechyd a diogelwch:
- Rhoddwyd sgyrsiau Iechyd a Diogelwch i'r disgyblion a'r staff ar sut i gadw'n ddiogel tra yn yr ysgol. Cefnogwyd aelodau’r tîm gan Ivor Goodsite o’r Constructor Ystyriol i gynnal y sgyrsiau hyn yng Nghynulliad yr Ysgol
- ynhaliwyd cystadleuaeth lliwio ar gyfer y blynyddoedd cynnar tra bu'r disgyblion hŷn yn cystadlu mewn cystadleuaeth dylunio poster diogelwch. Dewiswyd enillydd o bob blwyddyn a chyflwynwyd tocynnau llyfr a gafwyd gan fusnes lleol
Gwerth y Contract:
£250,000
Hyd:
26 wythnos