Addysg: Ysgol Gynradd Pontyberem

Beth wnaethon ni:

Roedd y prosiect hwn yn rhan allweddol o raglen MYA yr awdurdod yn Sir Gaerfyrddin ac roedd yn cynnwys dylunio, adeiladu, ailfodelu, atgyweirio ac adnewyddu adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pontyberem yn gyfan gwbl tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn weithredol. Roedd dyluniad y cynllun wedi cyrraedd dyfarniad cam 2 RIBA ac roeddem yn gyfrifol am symud y dyluniad ymlaen i gam 7 RIBA. Cwblhawyd y gwaith ar draws dau gam. Llwyddodd y prosiect i ennill Tystysgrif Adeiladwr Ystyriol y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth.

Cleient:

Cyngor Sir Caerfyrddin (Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru).

Gwaith a gwblhawyd Cam 1:

  • Trosglwyddo'r disgyblion a'r athrawon i ystafelloedd dosbarth dros dro mewn cabanau symudol a chreu 3 dosbarth dros dro yn y brif neuadd a alluogodd y gwaith i'r ystafelloedd dosbarth ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf gael ei gwblhau.
  • Ailwampio'r adeiladau yn fewnol ac yn allanol yn gyfan gwbl, atgyweiriadau adeileddol, a thyllau archwilio a thyllau prawf mewn perthynas â'r uchelfannau
  • Gwaith mecanyddol a thrydanol gan gynnwys chwistrellwyr tân, lifft, goleuadau llwyfan, uwchraddio acwstig, diogelwch a rheolaethau mynediad
  • Gwaith mewnol gan gynnwys nenfydau crog, addurniadau, lloriau, dodrefn sefydlog ac annibynnol
  • Gwell mynediad yn unol â rheoliadau'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Gwaith a gwblhawyd Cam 2:

  • Dymchwel ystafelloedd dosbarth dros dro ac adnewyddu'r brif neuadd, bloc gweinyddol ac ystafelloedd newid
  • Roedd gwaith allanol yn cynnwys ail-doi, gwaith tir, tirlunio, ardaloedd chwarae meddal newydd, maes parcio a mannau i gerddwyr

Materion allweddol y bu’n rhaid i ni eu ystyried:

  • Fe wnaethon ni yr holl waith ar safle presennol yr ysgol tra bod yr ysgol yn parhau i fod yn gwbl weithredol. I helpu gyda hyn, fe wnaethom leoli Portakabins a chreu ystafelloedd dosbarth dros dro yn y brif neuadd

Safonau adeiladu y gweithiwyd tuag atynt:

  • LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol)

Buddion cymunedol yr adeiladu:

  • Gwell amgylchedd dysgu i'r plant
  • Gwell amgylchedd gwaith ar gyfer yr athrawon a staff eraill yr ysgol
  • Gwell diogelwch o ganlyniad i well mynediad i dir yr ysgol, mannau parcio newydd a mannau gollwng a chasglu

Buddion cymunedol y prosiect:

  • 635 o ymgysylltiadau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) gyda'r ysgol
  • 86 awr o ymgysylltu â disgyblion
  • 6 prosiectau cymunedol
  • Cylchlythyrau cyfnodol yn diweddaru trigolion lleol a disgyblion ar gynnydd y prosiec
  • Adeiladodd aelodau’r tîm gegin fwd ar gyfer disgyblion y blynyddoedd cynnar, creu planwyr fel y gallent dyfu blodau a phlanhigion fel rhan o’u hastudiaethau ecolegol a gwneud addurniadau coeden Nadolig i bob plentyn o gynnwys wedi’i ailgylchu

Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:

  • 9 swydd am gyfanswm o 475 wythnos
  • 3 prentisiaeth am gyfanswm o 149 o wythnosau hyfforddi
  • 9 lleoliad profiad gwaith am gyfanswm o 44 wythnos
  • 6 lleoliad prawf gwaith am gyfanswm o 12 wythnos
  • 9 wythnos o hyfforddiant heb ei achredu

  • Mae'r gwelliannau i'r adeilad wedi ei wneud yn fwy ynni-effeithlon
  • Cadwyd allyriadau o drafnidiaeth i isafswm gan fod 76% o gadwyn gyflenwi’r prosiect yn dod o’r ardal leol.
  • 916 tunnell o wastraff yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i'w hailddefnyddio neu ei ailgylchu
  • 87% o wastraff yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi

Gwerth y Contract:
£4.1M
Hyd:
63 wythnos o gam 2 RIBA i gam 7 RIBA
Cwblhawyd:
Ionawr 2019

Economi lleol:

  • 76% o'r gadwyn gyflenwi o'r ardal leol
  • 100% o'r gweithlu o ardal cod post SA
  • 2 Ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr ar gyfer cyflenwyr lleol
  • 96% o gyfanswm gwariant prosiectau yng Nghymru

Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:

  • 9 swydd am gyfanswm o 475 wythnos
  • 3 prentisiaeth am gyfanswm o 149 o wythnosau hyfforddi
  • 9 lleoliad profiad gwaith am gyfanswm o 44 wythnos
  • 6 lleoliad prawf gwaith am gyfanswm o 12 wythnos
  • 9 wythnos o hyfforddiant heb ei achredu

Arall:

  • 100% o dargedau tâl teg wedi’u cyflawnit
left arrow
right arrow
Mae’n wych gweld plant a staff Ysgol Pontyberem wedi ymgartrefu yn yr ysgol hon sydd wedi’i hadnewyddu’n llwyr. Bellach mae digon o le y tu mewn i’r ysgol gyda chyfleusterau gwych ac ardal chwarae eang y tu allan. IMae’n ysgol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif Rydyn ni wedi rhoi addewid y byddwn ni’n gwneud ein gorau dros addysg yn Sir Gaerfyrddin a dyna rydyn ni’n ei wneud o dan y rhaglen Moderneiddio Addysg
Cllr Glynog Davies
/
Aelod Bwrdd Gweithredol  Chyfrifoldeb Am Addysg