Beth wnaethon ni :
Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu estyniad I uned AAA ac ail doi adeilad presennol yng Nghanolfan y Bont, Ysgol Bro Pedr. Llwyddodd y prosiect i ennill Tystysgrif Adeiladwr Ystyriol y Tu Hwnt I Gydymffurfiaeth.
Cleient:
Cyngor Sir Ceredigion (Fframwaith Rhanbarthol De Orllewin Cymru)
Gwaith a gwblhawyd :
- Dargyfeirio'r brif garthffos i osgoi'r estyniad newydd
- Dymchwel portacabin presennol
- Adeiladwaith traddodiadol o uned anghenion arbennig unllawr gyda nenfydau ar oleddf, to wedi'i dorri a thrawstiau metsec agored
- Gosod ffenestri alwminiwm
- Dodrefnu'r gegin
- Ymestyn gwasanaethau M&E o'r cyfleuster presennol
- Gorffeniadau llawr ac addurniadau
- Roedd y gwaith allanol yn cynnwys ail-doi'r adeilad presennol, llwybrau newydd, waliau, ffensys, rheiliau a ramp DDA
Materion Allweddol y bu'n rhaid i ni eu hystyried :
- Gwnaethom y gwaith tra arhosodd Ysgol Bro Pedr yn weithredol. Roedd rhai o'r plant a fynychodd yr uned AAA yn gweld y gweithgareddau mwy swnllyd yn heriol. I liniaru hyn, fe wnaethom y mwyafrif o’r gwaith yma yn ystod y gwyliau, cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau neu ar ôl i’r disgyblion fynd adref.
- Cymerwyd gofal hefyd i sicrhau nad oedd dim o'r gwaith yn effeithio ar redeg yr ysgol o ddydd i ddydd
- Roedd y trefniadau hyn yn cael eu monitro a'u hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu heffeithiolrwydd parhaus gyda'r holl randdeiliaid.
Safonau adeiladu y gweithiwyd tuag atynt :
- LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol)
Buddion cymunedol yr adeilad:
- • Gwell amgylchedd dysgu i'r plant
- • Gwell amgylchedd gwaith ar gyfer yr athrawon a staff eraill yr ysgol
- • 2 leoliad profiad gwaith i ddisgyblion o'r ysgol
Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:
- • 32 o wythnosau hyfforddi prentisiaid
- • 2 leoliad profiad gwaith i ddisgyblion o'r ysgol
Gwerth y Contract:
£820,000
Hyd:
36 wythnos
Economi lleol:
- 100% o'r gweithlu yn dod o ardal cod past SA.
- 83% o gyfanswm gwariant y prosiect yng Nghymru.
Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:
- 32 wythnos hyfforddiant prentisiaid.
- 2 wythnos lleoliad profiad gwaith I ddisgyblion o'r ysgol.
Targedau Tâl Teg a gyflawnwyd:
100%