Sut rydyn ni’n gweithio
Mae pobl yn adnabod Lloyd & Gravell am lawer mwy nag ansawdd ein gwaith yn unig. Maen nhw’n ein hadnabod ni am bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod eu prosiectau’n llwyddiant. Oherwydd er ein bod yn codi adeiladau rhagorol, rydym hefyd yn gweithio’n galed i gyfrannu at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Gwerth Rhagorol
Yr isafswm y mae ein cleientiaid yn ei ddisgwyl yw ein bod yn cwblhau eu gwaith adeiladu o fewn y gyllideb, ar amser, i safon uchel ac yn unol â’u manyleb ac unrhyw ofynion statudol.
Ond mae gwir werth am arian yn golygu mwy nag adeiladu adeilad o safon, o fewn y gyllideb ac ar amser Er bod y pethau hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant, mae hefyd yn bosibl adeiladu gwerth cymdeithasol ac economaidd, bod o fudd i gymunedau ac amddiffyn yr amgylchedd heb gyfaddawdu ar unrhyw beth arall.
Yn ein oll waith, dyna wnawn ni .
Sut yr adeiladwn gysylltiadau cadarn gyda'n cleientiaid.
Pan fyddwn ar y safle, rydym yn gwybod ein bod yn cynrychioli ein cleientiaid yn ogystal â ni ein hunain. Felly rydyn ni’n gweithio’n galed i fod yn gymydog da ac yn adeiladwr ystyriol.
Rydyn ni’n trin pawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn y ffordd rydyn ni’n gobeithio cael ein trin ein hunain – gyda pharch, gonestrwydd a chynhesrwydd. Mae ethos o ofal cwsmer a chymuned, partneriaeth, cydweithio, ansawdd, cyfrifoldeb a dibynadwyedd yn rhedeg drwy’r cwmni ac yn cael ei rannu gan y tîm cyfan..
Un pwynt cyswllt trwy gydol eich prosiect
Rydyn ni’n dod i adnabod y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn dda Mae gan ein holl gleientiaid un pwynt cyswllt arweiniol gan yr uwch dîm rheoli sy’n gweithio gyda nhw o’r cam cyn-gontractio a dylunio hyd at drosglwyddo ac ôl-ofal Ac mae ein strwythur corfforaethol syml yn ein galluogi i fod yn ymatebol a gwneud penderfyniadau’n gyflym
Mae pob arweinydd prosiect yn cyfarfod â’u cleientiaid bob mis i roi diweddariad ar gynnydd, derbyn adborth a chytuno ar y camau nesaf
Mae’r rhyngweithio personol, ymarferol hwn ag uwch reolwyr yn rhoi parhad gwasanaeth i’n cleientiaid a sicrwydd y bydd y penderfyniadau y cytunwn â nhw yn cael eu gwireddu.
Ein ffordd o weithredu
Mae heriau yn codi ar bob prosiect Fodd bynnag, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w datrys a lleihau’r aflonyddwch y maent yn ei achosi Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb cymdeithasol o ddifrif ac nid yn unig yn meddwl am ein busnes a’n tîm uniongyrchol
Gyda’n gwreiddiau wedi gwreiddio’n ddwfn yn yr ardal rydym yn meddwl ac yn poeni am ein cymunedau lleol, cyflenwyr a’r cyfleoedd y gallwn eu creu ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, yn enwedig i brentisiaid Rydym yn archwilio’r broses o gyflawni prosiectau cymunedol ac yn nodi manteision amgylcheddol y gallwn eu creu o’r gwaith a’r prosiectau rydym yn eu sicrhau
Sut yr adeiladwn weithlu i’r dyfodol
Sut y byddwn ni’n helpu i greu cymunedau cadarn
Sut yr adeiladwn gadwyn gyflenwi leol, gref
Sut rydym yn gwarchod yr amgylchedd ac yn helpu i adeiladu dyfodol cynaliadwy
Yr hyn a wnawn ni
gyfer y sector cyhoeddus a phreifat.