Masnachol: Stryd Stepney

Beth wnaethon ni:

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys gwaith dymchwel, ailfodelu ac adnewyddu sylweddol ar 2 adeilad tri llawr gyda'r gofod manwerthu presennol ar y llawr gwaelod a storfa/swyddfa ar yr ail a'r trydydd llawr. Roedd mynediad a pharcio i gefn yr adeilad hefyd yn annigonol.

Cleient:

Cyngor Sir Caerfyrddin(Fframwaith Adeiladwyr Rhanbarthol De Orllewin Cymru)

Materion allweddol y bu’n rhaid i ni eu ystyried:

  • Oherwydd y lle cyfyngedig sydd ar gael ar y safle, cyfyngedig iawn yw'r sgôp i ddarparu ar gyfer ein safle. Gyda chytundeb cwmni lleol llwyddwyd i sefydlu safle ar eu tir.
  • Roedd yr adeilad wedi'i leoli yng nghanol y dref, wedi'i amgylchynu gan fusnesau masnachol gweithredol ac roedd angen mynediad i'r adeiladau hyn bob amser. Mabwysiadwyd system iechyd, diogelwch a rheolaeth weithredol gynhwysfawr mewn cytundeb â'r busnesau cyfagos i leihau unrhyw aflonyddwch i'w gweithgareddau o ddydd i ddydd.
  • Roedd rheoli'r broses ddymchwel yn ystyriaeth fawr unwaith eto oherwydd y lle cyfyngedig oedd ar gael i wneud y gwaith. Datblygwyd cynllun dymchwel manwl a'i ymgorffori o fewn gweithrediadau'r safle gan ganolbwyntio'n benodol ar lygredd sŵn a llwch.
  • Roedd nodi lefelau lloriau gwahanol ym mhob adeilad yn her yn benodol o ran lleoliad y lifft. Cynlluniwyd hwn yn ystod cam cyn contract y prosiect.
  • Yn dilyn cwblhau ymarferol a thu allan i sgôp y gwaith canfuwyd nad oedd digon o awyru yn yr islawr a ddefnyddir fel mannau storio ar gyfer yr unedau masnachol. Gan weithio gydag un o'n haelodau cadwyn gyflenwi, daethpwyd o hyd i ateb gyda system awyru yn cael ei gosod gan darfu cyn lleied â phosibl ar y tenantiaid.

Safonau adeiladu y gweithiwyd tuag atynt:

  • Safon Cartrefi Sir Gaerfyrddin
  • LABC (Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol)

Buddion cymunedol o'r adeilad:

  • Cynyddu tai lleol
  • Adfywio canol y dref

Buddion cymunedol o'r prosiect hwn.:

  • Y contract hwn oedd y cyntaf yn strategaeth Cyngor Sir Caerfyrddin i ddod ag eiddo masnachol yn ôl i feddiannaeth yng nghanol trefi. Roedd y strategaeth yn cynnwys darparu fflatiau preswyl newydd uwchben yr allfeydd masnachol. Roedd yn amlwg bod y strategaeth hon yn gweithio ar y prosiect hwn gan fod y ddwy uned yn cael eu gosod ar denantiaeth yn ogystal â'r pedair fflat uchod ar ôl eu cwblhau. Ni ellir ond ystyried adfywio canol trefi Sir Gaerfyrddin fel menter gadarnhaol i ffyniant a lles ei thrigolion yn y dyfodol.
  • Cyflawnwyd 2 brosiect ailfodelu pellach gan y cwmni yn 31 a 48 Stryd Stepney i ddenu/creu cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd fel rhan o raglen adfywio canol y dref.

Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:

  • 49 wythnos hyfforddiant a phrentisiaaeth.
  • 56 awr o dreialon gwaith.
  • 6 chyfweliad ar gyfer ymgeiswyr posibl a nodwyd gan Cymunedau am Waith (LIFT gynt)
  • 3 lleoliad gwaith.
  • 2 swydd gweithredu safle newydd.
  • 1 wythnos o brofiad gwaith wedi'i darparu gan yr is-gontractwr trydanol.
  • Ymunodd 1 prentis newydd â’n rhaglen brentisiaeth a chyflawnodd ei Gymhwyster NVQ Lefel 3

Buddion amgylcheddol:

  • Gwell effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad trwy osod boeleri ynni a arweiniodd at werthoedd U gwell

Gwerth y Contract:

£856,000

Hyd:

51 wythnos

Economi leol:

  • 100% o'r gweithlu o ardal cod post SA
  • 83% o gyfanswm gwariant y prosiect yng Nghymru
  • Cyfleoedd newydd i isgontractwyr

Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:

  • 49 wythnos hyfforddiant a phrentisiaaeth
  • 56 awr o dreialon gwaith
  • 6 chyfweliad ar gyfer ymgeiswyr posibl a nodwyd gan Cymunedau am Waith (LIFT gynt)
  • 3 lleoliad gwaith
  • 2 swydd gweithredu safle newydd
  • 1 wythnos o brofiad gwaith wedi'i darparu gan yr is-gontractwr trydanol
  • Ymunodd 1 prentis newydd â’n rhaglen brentisiaeth a chyflawnodd ei Gymhwyster NVQ Lefel 3

Targedau Tâl Teg a gylawnwyd:

100%
left arrow
right arrow