Addysg: Ysgol Gorslas

Beth wnaethon ni:

Cynllunio ac adeiladu ysgol ddeulawr newydd yng Ngorslas, Sir Gaerfyrddin ar gyfer 240 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed gan gynnwys darpariaeth annatod ar gyfer cyfleuster Blynyddoedd Cynnar. Mae'r adeilad newydd wedi ei leoli ar safle sy’n agos i'r ysgol bresennol y tu ôl i barc y pentref. Bydd rhai o'r ardaloedd allanol yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol y tu allan i oriau ysgol. Mae'r adeilad newydd wedi'i ddylunio gan ddefnyddio dull ffabrig yn gyntaf o ran effeithlonrwydd ynni ac mae wedi'i adeiladu i Safon Passivhaus gan ennill gradd Rhagorol BREEAM. Roedd y prosiect yn cynnwys yr isadeiledd cysylltiedig, gwaith allanol, draenio ac ymgymeriadau safle pellach. Ymgymerwyd â gwaith gwella i ardaloedd allanol presennol lle'r oedd y prosiect yn effeithio arnynt. Llwyddodd y prosiect I ennill Tystysgrif Adeiladwr Ystyriol y Tu Hwnt I Gydymffurfiaeth.

Cleient:

Cyngor Sir Caerfyrddin (Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru).

Gwaith wedi ei gwblhau:

  • Dylunio ac adeiladu ysgol newydd
  • Gwasanaethau cysylltiedig gan gynnwys draenio ac adeiladu systemau chwistrellu tân allanol
  • Llwybr mynediad pwrpasol ar gyfer staff, danfoniadau a man gollwng disgyblion
  • Adeiladu mannau chwarae awyr agored newydd a gwaith seilwaith i gynnwys Cwrt Gemau Amlddefnydd (MUGA), cynllun tirlunio llawn, cae chwarae newydd i safon FA dan 9, llwybr natur ac ardal gynefin gwell gerllaw
  • Gwaith allanol, draenio a gwelliannau
  • Gwelliannau i faes parcio a goleuadau stryd presennol y cyngor cymuned

Materion allweddol y bu’n rhaid I ni eu hystyried:

Dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Mawrth 2020, fodd bynnag, cafodd ei gau ym mis Ebrill 2020 yn ystod y cyfnod clo cyntaf Covid 19. Cafodd y safle ei ail-symud ar 11 Mai, 2020. Er gwaethaf yr heriau niferus a wynebwyd ar draws y diwydiant adeiladu oherwydd COVID 19 cydweithiodd yr holl randdeiliaid a oedd yn rhan o’r prosiect i leihau’r effaith ar y prosiect yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Gweithiodd tîm gweithredol y safle, gan gynnwys ein timau cadwyn gyflenwi, yn ddiflino i sicrhau bod oedi’n cael ei gadw i’r lleiafswm a chwblhawyd y prosiect yn haf 2022.

Safonau adeiladu y gweithiwyd tuag atynt:

  • Ardystiad Passivhaus
  • Ardystiad Ardderchog BREEAM
  • LABC (Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol)

Mae’r cyfleuster newydd:

  • Yn diwallu anghenion y gymuned ehangach
  • Darparu digon o le dan do ac awyr agored i gyflwyno a gwella Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a chyfleoedd chwarae i bob disgybl
  • Cwrdd â'r galw presennol ac yn y dyfodol am leoedd disgyblion yn yr ysgol

  • Mae’r ysgol wedi’i dylunio gan ddefnyddio’r egwyddorion ffabrig yn gyntaf gan ennill Tystysgrif Passivhaus a sgôr Rhagorol BREEAM
  • Bydd yr adeilad yn cynnal effeithlonrwydd ynni ac ni fydd angen dyfeisiau ynni adnewyddadwy cymhleth ychwanegol
  • Bydd yr adeilad yn cyflawni perfformiad gwarantedig dros ei oes, heb unrhyw angen am waith cynnal a chadw ychwanegol
  • Bydd yr adeilad yn defnyddio llai o ynni
  • Bydd y staff a'r plant yn elwa o adeilad syml, darbodus a hawdd ei ddefnyddio sy'n gofyn am ychydig iawn o waith cynnal a chadw
  • Lle'r oedd hynny'n bosibl, cafwyd deunyddiau a gwasanaethau o'r ardal leol, gan ddatblygu cadwyn gyflenwi leol a oedd yn cefnogi cyflogaeth a busnesau lleol yn ogystal â lleihau teithio i leihau'r effaith ar yr amgylchedd
left arrow
right arrow
Mae Lloyd & Gravell wedi ennill parch y gymuned oherwydd ei gweithredoedd a’r hyn yr ymgymerodd ag ef oherwydd ei fod wirioneddol eisiau cefnogi’r gymuned ac nid oherwydd bod yn rhaid. Gall pobl ddweud, a gwerthfawrogi, y gwahaniaeth.
Mae Lloyd & Gravell wedi bod yn llysgennad rhagorol i'r Cyngor Sir ac i'r diwydiant adeiladu yn gyffredinol. Mae wedi bod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â’r gymuned a sefydliadau lleol, wrth egluro beth roedd yn ei wneud ac roedd gwahoddiad bob amser i ddod i siarad am unrhyw beth sy’n peri pryder neu lle gallai esboniad fod o gymorth. Fe gyflawnodd hefyd ei haddewidion yn ddiwyro.
Llew Thomas
/
Clerc I Gyngor Cymunedol Gorslas