Pwy ydyn ni: Mae’n dda i wybod

Gan fod ein cyfrifoldebau fel busnes yn ymestyn y tu hwnt i wneud elw yn unig, rydym yn gweithio'n galed i fod yn gyfrifol yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Rydym yn chwarae ein rhan mewn adeiladu cymunedau sy’n ffyniannus, gwydn, iach, cyfartal a chydlynol. Ac fel busnes Cymreig balch, rydym yn hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant a threftadaeth Cymru lle y gallwn.

Yn benodol, rydym yn rhoi gwerth ar gydweithio, synnwyr cyffredin a pharch at ein gilydd. Gallwch weld hyn yn y ffaith nad ydym mewn mwy na 30 mlynedd o fusnes, erioed wedi cael neu wedi gwneud hawliad cytundebol.

Rydym yn gweithio i sawl polisi sy’n cwrdd a nifer o safonau ac yn llywio ac yn cefnogi ein diwylliant:

File Download
Datganiad gwrth-gaethwasiaeth
Polisi iechyd a diogelwch
Polisi amgylcheddol
Polisi ansawdd
Polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant