Beth wnaethon ni:
Cleient:
Materion allweddol y bu’n rhaid i ni eu ystyried:
- Oherwydd y lle cyfyngedig sydd ar gael ar y safle, cyfyngedig iawn yw'r sgôp i ddarparu ar gyfer ein safle. Gyda chytundeb cwmni lleol llwyddwyd i sefydlu safle ar eu tir.
- Roedd yr adeilad wedi'i leoli yng nghanol y dref, wedi'i amgylchynu gan fusnesau masnachol gweithredol ac roedd angen mynediad i'r adeiladau hyn bob amser. Mabwysiadwyd system iechyd, diogelwch a rheolaeth weithredol gynhwysfawr mewn cytundeb â'r busnesau cyfagos i leihau unrhyw aflonyddwch i'w gweithgareddau o ddydd i ddydd.
- Roedd rheoli'r broses ddymchwel yn ystyriaeth fawr unwaith eto oherwydd y lle cyfyngedig oedd ar gael i wneud y gwaith. Datblygwyd cynllun dymchwel manwl a'i ymgorffori o fewn gweithrediadau'r safle gan ganolbwyntio'n benodol ar lygredd sŵn a llwch.
- Roedd nodi lefelau lloriau gwahanol ym mhob adeilad yn her yn benodol o ran lleoliad y lifft. Cynlluniwyd hwn yn ystod cam cyn contract y prosiect.
- Yn dilyn cwblhau ymarferol a thu allan i sgôp y gwaith canfuwyd nad oedd digon o awyru yn yr islawr a ddefnyddir fel mannau storio ar gyfer yr unedau masnachol. Gan weithio gydag un o'n haelodau cadwyn gyflenwi, daethpwyd o hyd i ateb gyda system awyru yn cael ei gosod gan darfu cyn lleied â phosibl ar y tenantiaid.
Safonau adeiladu y gweithiwyd tuag atynt:
- Safon Cartrefi Sir Gaerfyrddin
- LABC (Rheoli Adeiladu Awdurdod Lleol)
Buddion cymunedol o'r adeilad:
- Cynyddu tai lleol
- Adfywio canol y dref
Buddion cymunedol o'r prosiect hwn.:
- Y contract hwn oedd y cyntaf yn strategaeth Cyngor Sir Caerfyrddin i ddod ag eiddo masnachol yn ôl i feddiannaeth yng nghanol trefi. Roedd y strategaeth yn cynnwys darparu fflatiau preswyl newydd uwchben yr allfeydd masnachol. Roedd yn amlwg bod y strategaeth hon yn gweithio ar y prosiect hwn gan fod y ddwy uned yn cael eu gosod ar denantiaeth yn ogystal â'r pedair fflat uchod ar ôl eu cwblhau. Ni ellir ond ystyried adfywio canol trefi Sir Gaerfyrddin fel menter gadarnhaol i ffyniant a lles ei thrigolion yn y dyfodol.
- Cyflawnwyd 2 brosiect ailfodelu pellach gan y cwmni yn 31 a 48 Stryd Stepney i ddenu/creu cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd fel rhan o raglen adfywio canol y dref.
Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:
- 49 wythnos hyfforddiant a phrentisiaaeth.
- 56 awr o dreialon gwaith.
- 6 chyfweliad ar gyfer ymgeiswyr posibl a nodwyd gan Cymunedau am Waith (LIFT gynt)
- 3 lleoliad gwaith.
- 2 swydd gweithredu safle newydd.
- 1 wythnos o brofiad gwaith wedi'i darparu gan yr is-gontractwr trydanol.
- Ymunodd 1 prentis newydd â’n rhaglen brentisiaeth a chyflawnodd ei Gymhwyster NVQ Lefel 3
Buddion amgylcheddol:
- Gwell effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad trwy osod boeleri ynni a arweiniodd at werthoedd U gwell
Gwerth y Contract:
Hyd:
Economi leol:
- 100% o'r gweithlu o ardal cod post SA
- 83% o gyfanswm gwariant y prosiect yng Nghymru
- Cyfleoedd newydd i isgontractwyr
Cyflogaeth, profiad gwaith a hyfforddiant:
- 49 wythnos hyfforddiant a phrentisiaaeth
- 56 awr o dreialon gwaith
- 6 chyfweliad ar gyfer ymgeiswyr posibl a nodwyd gan Cymunedau am Waith (LIFT gynt)
- 3 lleoliad gwaith
- 2 swydd gweithredu safle newydd
- 1 wythnos o brofiad gwaith wedi'i darparu gan yr is-gontractwr trydanol
- Ymunodd 1 prentis newydd â’n rhaglen brentisiaeth a chyflawnodd ei Gymhwyster NVQ Lefel 3
Targedau Tâl Teg a gylawnwyd: