Sut rydyn ni’n gweithio: Ein cadwyn gyflenwi
Mae ein cyflenwyr a’n contractwyr yn estyniad o’n tîm ac yn rhan annatod o bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.
Rydym wedi adeiladu rhwydwaith lleol cryf o fusnesau ac unigolion sydd:
• Yn gyfarwydd iawn i ni
•Yn rhai y gallwn ddibynnu arnynt
O ganlyniad, rydym yn gwybod y gallwn:
Rydym yn cefnogi’r economi leol
Trwy ein gwaith gyda’n cyflenwyr a’n contractwyr, rydym yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol cynaliadwy. Pan fyddwn yn darparu hyfforddiant i’n tîm, pan fo’n berthnasol, rydym yn gwahodd ein cyflenwyr a’n contractwyr lleol i ymuno â ni. Mae hon yn ffordd ymarferol y gallwn gefnogi’r economi leol ac mae’n ein helpu i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arfer gorau ar draws ein cadwyn gyflenwi.
Rydym yn cyrraedd 100% o’n targedau taliadau teg ac, ar gyfartaledd, yn gwario 83% o gyllideb pob prosiect yng Nghymru.
Cliciwch yma os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n rhestr cadwyn gyflenwi gymeradwy i gael ffurflen gofrestru cyflenwr.