Mae Gweithwyr yn Cymryd Perchnogaeth o Lloyd & Gravell wrth iddo Baratoi ar Gyfer Twf yn y Dyfodol.

Mae Lloyd & Gravell, contractwr adeiladu wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, sy’n cyflawni prosiectau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, wedi cwblhau trafodiad Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr (EOT) mewn cam arwyddocaol i’r busnes, sy’n sicrhau ei ddyfodol ac yn ei baratoi ar gyfer twf pellach. Cyhoeddwyd y newyddion ledled y cwmni mewn digwyddiad diweddar ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

 

Lloyd and Gravell team

Mae symudiad tuag at Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr (EOT) yn amddiffyn 60 o swyddi ledled y cwmni, gan gynnwys amrywiaeth o hyfforddeion a phrentisiaid crefft/technegol. Bydd hyn yn arwain at greu swyddi yn y dyfodol tra’n sicrhau bod arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau gweithlu presennol Lloyd & Gravell yn cael eu cadw’n lleol ac yn cael eu trosglwyddo i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Rheoli newydd – Rob Charles a’r Cyfarwyddwyr sy’n gadael, Paul Lloyd a Kevin Gravell fod:

“Yr ased mwyaf gwerthfawr i unrhyw gwmni yw eu gweithlu ac roeddem am sicrhau eu bod yn meddiannu ar lwyddiant y dyfodol gan eu bod wedi bod yn ganolog i’n twf a’n cynnydd. Ers sefydlu, mae ein ethos wedi bod i adael etifeddiaeth barhaol yn y cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithredu. Mae Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr yn sicrhau parhad i gleientiaid a phartneriaid tra’n darparu diogelwch i’r tîm cyfan.”

Bydd y Bwrdd Rheoli newydd yn cael ei arwain gan Robert Charles, Cyfarwyddwr Rheoli, ac yn cynnwys Paul Roberts, Cyfarwyddwr Prosiectau, Osian Lloyd, Cyfarwyddwr HSEQ, Gary Price, Cyfarwyddwr Adeiladu, a Lowri Griffiths, Cyfarwyddwraig Cyllid Cysylltiol.

Bydd y cyfarwyddwyr sy’n gadael, Paul Lloyd, Kevin Gravell, Andrea Gravell a Sharon Lloyd yn cefnogi’r Bwrdd Rheoli wrth i’r trosglwyddo ddigwydd hyd fis Mehefin, 2026.

Ar gefn cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, ac ar gyngor GS Verde Group, mae Lloyd & Gravell bellach yn eiddo 100% i Ymddiriedolaeth Perchenogaeth Gweithwyr, gan gydnabod a sicrhau cyfraniad ei dîm tra’n cryfhau dyfodol hirdymor y busnes.

Symudwyd tuag at berchenogaeth gweithwyr oherwydd awydd i warchod etifeddiaeth y cwmni, sicrhau parhad a chreu strwythur sy’n gwobrwyo’r bobl sydd wedi bod yn ganolog i’w lwyddiant fel contractwr adeiladu sy’n ennill gwobrau, sydd wedi adeiladu enw da cryf am ansawdd, cydweithrediad a pherthnasoedd hir-dymor gyda chleientiaid ledled Cymru.

Cynghorodd Grwp GS Verde ar bob agwedd o’r trafodiad gan gynnwys cyllid corfforaethol, strwythuro cyfreithiol a threth.

“Mae’r trosglwyddo hwn yn nodi dechrau pennod newydd i Lloyd & Gravell, gyda’r busnes wedi’i osod yn dda i adeiladu ar ei sail gadarn a pharhau i gyflwyno prosiectau o ansawdd uchel i’w gleientiaid”.

Mae perchenogaeth gweithwyr yn parhau i ennill tir ledled y DU fel ateb ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth, gan ganiatáu i berchnogwyr busnes gadw annibyniaeth tra’n galluogi gweithwyr ac yn cefnogi twf hirdymor, cynaliadwy.

Dywedodd Arushi Jolly, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru:

“Mae ein cyllid yn sicrhau dyfodol hirdymor y busnes tra’n galluogi’r gweithlu i gymryd rhan lawn yn y gwobrau o lwyddiant y busnes yn y dyfodol. Mae’n gam mawr ymlaen, gan ddwyn ynghyd mwy o ymroddiad gweithwyr ac yn cadw swyddi yng Nghymru.”

Mae Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n werth £500 miliwn, yn cefnogi busnesau Cymreig gyda thymor hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mezzanine, a buddsoddiadau cyfranddaliadau ar gael o £25,000 i £10 miliwn.

LLoyd Gravell 003 copy

TM1 7224 copy 2

TM1 7216 copy 2