Mae’r cwmni yn gyffrous i ddatgan apwyntiad Paul Robert i rôl Cyfarwyddwr Prosiect Cyswllt. Fe ymunodd Paul â’r cwmi ar y 29ain o Fehefin, 2023.
Mae Paul yn dod gyda chyfoeth o brofiad wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y diwydiant adeiladu dros 20 mlynedd. Yn ei swyddogaethau blaenorol roedd Paul yn gyfrifol am arwain a rheoli tîmau prosiect, rhoi cyngor ar strategaethau caffael gwahanol, rhoi cyngor ar rheoli risg, gwerthuso tendrau a dewis contractwyr, rheoli, monitro ac adrodd ar ddatblygiad proseictau yn ogystal â gweinyddu contractau ac apwyntiadau ymgynghorol.
Mae ei gefndir technegol yn golygu ei fod wedi magu y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gymhwyso atebion ymarferol i broblemau dydd i dydd tra’n adolygu dyluniadau a rheoli proseictau.
Mi fydd Paul yn rhan hanfodol o’r tîm rheoli uwch yn gwthio’r busnes ymlaen i gyflawni yr ehangu arfaethedig i’n portfolio. Mae Paul yn edrych ymlaen i ymgymryd yn ei rôl newydd o fewn y cwmi fel Cyfarwyddwr Prosiectau, a fe bydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer clientiaid, aelodau o’r tîm dylunio a rhanddeiliaid sy’n cymryd rhan mewn prosiectau cyfredol ac yn y dyfodol.