Preswyl: 5-8 Stryd Spilman, Caerfyrddin

Beth wnaethom :

Er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol am dai newydd, dechreuodd Cyngor Sir Gaerfyrddin raglen o ddarparu cartrefi fforddiadwy trwy ailddatblygu safleoedd ac asedau a oedd heb eu defnyddio. Roedd y prosiect yn 5-8 Stryd Spilman yn rhan o'r mentrau hyn. Yn flaenorol, cafodd yr adeilad ei feddiannu gan adrannau cynllunio a rheolaeth adeiladu'r Awdurdod, ac arosodd yn wag ar ôl ddiweddu eu defnyddio ym 2019. Darparodd yr ailddatblygiad 12 uned breswyl newydd dros 3 llawr fel a ganlyn: • Llawr Gwaelod – 2 fflat 2 ystafell wely (cyfeillgar i bobl anabl) • Llawr Cyntaf – 4 fflat 1 ystafell wely • Ail Llawr – 4 fflat 1 ystafell wely • Estyniadau cefn presennol – 2 uned 3 llawr 1 ystafell wely. Nodau'r prosiect oedd darparu tai cymdeithasol diogel, sicr ac effeithlon o ran egni trwy ddefnyddio dyluniad ffabrig gyntaf gyda thechnolegau integredig, i fynd i'r afael a lleihau tlodi tanwydd i denantiaid.

Cwsmer :

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Gweithiau a Gwblhawyd:

Ar wobrwyo, roedd y cynllun wedi cael ei ddylunio'n bennaf i Gam 4 RIBA ac roeddem yn gyfrifol am ddatblygu'r holl waith dylunio drwy Gamau 5-7 RIBA, gan gynnwys cydlynu a chynhwysiad pob disgyblaeth ddylunio lle bo hynny'n ofynnol. Roedd y gweith yn cynnwys: • Dymchwel Mewnol • Tynnu Asbestos • Aildrefnu mewnol, gosod strwythurau dur, acwistig, • Ail-ddatblygu gwasanaethau adeiladu yn llawn, gwaith i uwchraddio amgylchynfa thermol yr adeilad. • Ail-ddatblygu gwasanaethau M&E gan gynnwys gosod taenellwyr tân. • Gwaith allanol yn cynnwys codi ffensys, aildrefnu y maes parcio yn rhannol, gosod storfa beiciau, adeiladu storfa biniau caeedig ac ystafell planhigion.

Pethau Allweddol a Gafodd eu Hystyried:

Roedd y prosiect wedi ei lleoli yng nghanol tref Caerfyrddin ar brif ffordd brysur wedi'i amgylchynu gan swyddfeydd/busnesau gweithredol gan gynnwys gwesty. Ynghyd â sicrhau bod prosesau rheoli iechyd a diogelwch effeithiol a chadarn yn cael eu mabwysiadu, roedd yn rhaid eu datblygu hefyd gan sicrhau nad oeddent yn cael effaith negyddol ar weithrediadau dydd i ddydd y busnesau cyfagos. Unwaith eto, oherwydd lleoliad y prosiect ar brif ffordd brysur a'r mynediad rhannol i leoliad y safle a maes parcio defnyddwyr adeilad yr awdurdod lleol, roedd yn rhaid i gyflenwadau gael eu rheoli a'u cydlynu'n fanwyl. Trefnwyd codi a dadgilio gwahanol ddarnau o sgaffald y tu allan i oriau gwaith er mwyn osgoi cyfnodau brig traffig ac anhwylustod i ddefnyddwyr y ffordd a busnesau cyfagos.

Safonau Adeiladu yr Oeddem yn Gweithio yn eu Herbyn:

  • Cydymffurfio â rheolau ardal gadwraeth
  • Safonau Ansawdd Tai Cymru.
  • Safon Cartrefi Caerfyrddin
  • LABC (Rheolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol)
left arrow
right arrow