Sut rydyn ni’n gweithio: Ein cymunedau
Wedi’n geni a’n magu yng Nghwm Gwendraeth, mae ein gwreiddiau wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau lleol ac wrth galon popeth a wnawn. Mae’r cyfleoedd a ddarparwyd i ni gan gleientiaid lleol wedi ein galluogi i dyfu, datblygu ac arallgyfeirio’r busnes dros y 30 mlynedd diwethaf.
Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio ac yn gwneud hyn trwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a phrofiad gwaith lleol, cynaliadwy. Rydym hefyd yn achub ar bob cyfle i greu a chyfrannu at brosiectau sydd o fudd i’r gymuned leol ac sydd â gwerth parhaol.
Mae’r ymrwymiad hwn yn rhedeg ar draws ein tîm staff, sy’n cynnig llawer o syniadau ar gyfer y prosiectau cymunedol y byddwn yn eu sefydlu neu’n cymryd rhan ynddynt.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cadwyn gyflenwi leol gadarn a byddwn yn cyrchu, lle bynnag y bo modd, y deunyddiau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn ardal y prosiect. Mae creu cadwyn gyflenwi leol yn cadw arian yn agos at ble mae’n cael ei ennill, gan roi hwb i fusnesau lleol, cyflogaeth a’r economi gyfan gan gyfrannu at weledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Byddwn yn parhau i annog a chefnogi aelodau cadwyn gyflenwi newydd sy’n dymuno ymuno â’n rhestr gofrestredig a’r rhai sydd wedi gweithio ar brosiectau blaenorol. Dilynwch y ddolen os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n rhestr cadwyn gyflenwi gymeradwy.
Rydym yn cefnogi sefydliadau a grwpiau lleol o ran nawdd, cyfrannu deunydd/llafur ac ati. Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol eraill i ddarparu cyfleoedd i bobl leoi i:
- Ennill profiad gwaith
- Dysgub sgiliau newydd
- Datblygu sgiliau cyfweld
- Magu hyder
- Dycgwelyd I’r gwaith
Rydym yn dylunio ac yn adeiladu amrywiaeth o brosiectau ac yn gwneud gwaith adnewyddu, ailfodelu a thrwsio adeiladau presennol.
Yr hyn a wnawn niRydym yn Adeiladwr Ystyriol
Rydym yn deall y gall gwaith adeiladu darfu ar gymunedau lleol. Felly rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r aflonyddwch hwn a gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn brofiad cadarnhaol i bawb sy’n gysylltiedig neu’n cael eu heffeithio.
Mae ein prosiectau wedi’u cofrestru gyda’r Cynllun Adeiladwr Ystyriol, ac i gydnabod ein hymrwymiad i’r Cod Ymarfer Ystyriol, rydym wedi derbyn Gwobrau Aur ac Arian Cenedlaethol, gyda’r rhan fwyaf o’n contractau’n derbyn tystysgrifau Perfformiad y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i annog arfer gorau y tu hwnt i ofynion statudol, ac mae’r Cod Ymarfer Ystyriol yn canolbwyntio ar y tri maes a ganlyn:
- Parchu y gymuned
- Gofalu am yr amgylchedd
- Gwerthfawrogi’r gweithlu