Paul Roberts wedi ei benodi i fwrdd y cyfarwyddwyr
Rydym yn falch i gyhoeddi fod L&G wedi penodi Paul Roberts, Cyfarwyddwr Prosiectau i Ffwrdd y Cyfarwyddwr o’r 21ain Hydref, 2024.
Ymunodd Paul â thîm L&G fel Cyfarwyddwr Prosiectau Cysylltiol yn 2023 fel rhan o strategaeth twf a datblygiad y cwmni. Mae gan Paul yrfa disglair dros 3 degawd. Mae wedi dod â chyfoedd o brofiad dylunio, rheoli contract ac adeiladu i’r cwmni o’i waith blaenorol yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Bydd ei brofiad a’i weledigaeth yn amhrisiadwy tra ein bod yn parhau i gryfhau a datblygu y cwmni.
Mae Paul wedi cadarnhau ei fod yn gyffrous i ymuno â Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac i fod yn rhan o’r tîm ymgeisio a oedd wedi sicrhau mannau ar Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De Orllewin Cymru 2024. Bydd y fframwaith newydd yn rhedeg i fyny i 2027, gyda’r opsiwn i ymestyn am 1 flwyddyn, ac mae’r cwmni wedi ei gynnwys mewn sawl lot yn yr ardaloedd Dwyreiniol a Gorllewinol ar gyfer contractau o werth hyd at £15M. Mae L&G wedi bod yn Gontractwr FfCRhDOC ers 2012.
Yn ogystal rydym wedi llwyddo i sicrhau mannau mewn sawl lot ar Fframwaith Eiddo Sir Gar 2024 a fydd hefyd yn rhedeg am gyfnod o 4 mlynedd.
Mae cynhwysiad y cwmni ar fframweithiau contractwyr yn adlewyrchu yr ymrwymiad, arbennigedd a gwaith caled mae ein tîmau rheoli a gweithredol wedi dangos drwy weithio cydweithredol gyda chlientiaid a rhanddeiliaid ar draws y prosiectau â ddarparwyd fel rhan o gytundebau Fframwaith blaenorol dros y 12 mlynedd diwethaf. Fel tîm rydym yn edrych ymlaen i barhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i’w llwyddiant parhaus.
Mae’r tîm yn edrych ymlaen i weithio gyda chlientiaid presennol a rhai yn y dyfodol er mwyn cyflawni mwy o brosiectau preswyl, cyhoeddus ac addysgol arloesol, o safon uchel, o fewn y cymunedau lleol lle rydym yn byw ac yn gweithio.
Rydym yn edrych i ehangu ein cadwyn gyflenwad lleol i weithio ar brosiectau bydd yn codi o’r FfCRhDOC a phrosiectau eraill. Os oes gennych ddiddoreb mewn dod yn gyflenwr cofrestredig, a wnewch gysylltu â’n Tîm Masnachol ar 01269 861160 neu e-bostio enquiries@lloydandgravell.co.uk i gael mwy o wybodaeth.